Cyfeirlyfr Cwnsela
I gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd wedi dioddef camdriniaeth ewch i: <http://www.counselling-directory.org.uk/abuse.html> Mae’r Cyfeirlyfr Cwnsela yn wasanaeth cyfrinachol sy’n annog pobl mewn angen i geisio cymorth ac sy’n rhoi eu rhoi mewn cysylltiad â chwnsleriaid cymwys yn y DU. Mae’r safle’n cynnwys gwybodaeth am y mathau cyffredin o faterion y bydd pobl yn ceisio cymorth cwnsela yn eu cylch, yn ogystal ag erthyglau, newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau. Er mwyn sicrhau proffesiynoldeb y wefan, mae pob cwnsler wedi rhoi manylion eu cymwysterau a’u hyswiriant neu brawf o'u haelodaeth o gorff proffesiynol.
Y Cyfeirlyfr Cwnsela erbyn hyn yw rhwydwaith cefnogi mwyaf blaenllaw y DU gyda mwy na 10,000 o gwnsleriaid cymwys wedi’u rhestru.
Mae’r Cyfeirlyfr Cwnsela newydd ryddhau eu fideo cyntaf sy’n egluro sut y mae eu gwefan yn cefnogi pobl sy’n chwilio am gymorth a chyngor ynglŷn â chwnsela ac iechyd meddwl. Gallwch ei wylio yma: https://youtu.be/pzABuOx8YNs